Mae ein gwaith, yn Ymchwil Cei, wedi'i seilio ar y safonau uchaf o ymarfer moesegol. Credwn fod uniondeb, tryloywder a pharch yn hanfodol i ymchwil ac ymgynghoriaeth gyfrifol. Mae ein hymrwymiad moesegol yn llywio pob cam o'n gwaith — o'r cynllun cychwynnol i'r adroddiad terfynol.


Gonestrwydd ac Annibyniaeth

Rydym yn darparu mewnwelediadau diduedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein dadansoddiadau yn cael eu llywio gan y data ac amcanion y prosiect yn unig, heb unrhyw ddylanwad gormodol gan gleientiaid, cyllidwyr neu randdeiliaid eraill. Ni fyddwn byth yn trin canfyddiadau i fodloni canlyniadau a bennwyd ymlaen llaw.

Cydsyniad Gwybodus a Hawliau Cyfranogwyr

Rydym yn gweithio o dan y protocolau cydsyniad gwybodus, gan barchu hawl ein cyfranogwyr i breifatrwydd a'u hawl i dynnu'n ôl o'r prosiect ar unrhyw adeg heb unrhyw ganlyniad. Mae'r holl ddata personol yn cael ei drin yn ddiogel ac mewn cydymffurfiaeth lawn â deddfau diogelu data perthnasol a safonau moesegol. Rydym yn llofnodi cytundebau rheoli data gyda'n cleientiaid er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berchnogion ac yn rheolwyr eu data eu hunain.

Tryloywder ac Atebolrwydd

Rydym yn cadw tryloywder ynghylch ein methodolegau, ein cyfyngiadau, ac unrhyw wrthdaro buddiannau posibl. Mae ein cleientiaid yn cael eu hysbysu drwy gydol y broses ymchwil, ac rydym yn croesawu craffu ar ein dulliau a'n canfyddiadau.

Bod yn ddienw

Mae data sensitif yn cael ei ddiogelu gan ddefnyddio systemau diogel, ac mae canfyddiadau'n cael eu hadrodd mewn ffordd sy'n sicrhau bod pobl yn ddienw lle bo angen.

Parch at Gymunedau

Cynhelir ein hymchwil gyda sensitifrwydd diwylliannol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. Rydym yn mynd ati i ystyried effaith gymdeithasol ehangach ein gwaith ac yn ymdrechu i osgoi niwed, camfanteisio, neu gamliwio.

Defnyddio deallusrwydd artiffisial cyfrifol

Rydym yn defnyddio peiriannau chwilio sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella galluoedd chwilio traddodiadol, ond nid ydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i ddadansoddi data nac ysgrifennu unrhyw ran o'n hadroddiadau.

Argyfwng yr Hinsawdd ac Amgylcheddol

Rydym yn ceisio lliniaru ein hôl troed carbon bob amser drwy ddewis opsiynau teithio cynaliadwy a chwrdd yn rhithiol lle bo'n briodol.